» Y budd o ddysgu » Fel gallaf ddewis y cwrs iawn? » Gwerth Dysgu
Manteision dysgu

Un sialens hir yw bywyd. Drwy sialensiau bywyd yr ydym yn dysgu – ac nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu. Mae pobl ym mhob cwr o Gymru yn darganfod eu dawn i ddysgu a gwneud, ac yn cael hwyl!

Efallai eich bod yn meddwl am ennill cymhwyster am y tro cyntaf – efallai eich bod wedi penderfynu gwella eich sgiliau sylfaenol fel darllen ac ysgrifennu, neu efallai eich bod yn bwriadu dychwelyd i weithio ar ôl cyfnod o fod yn ddi-waith neu ar ôl bod gartref yn magu teulu. Efallai eich bod wedi penderfynu newid gyrfa neu geisio dyrchafiad a bod angen cymhwyster newydd arnoch er mwyn gallu gwireddu hynny.

Mae dysgu'n golygu mwy na dim ond astudio i gael cymwysterau neu wella eich cyfleoedd gwaith. Gall gwmpasu amrywiaeth eang o gyfleoedd i ehangu'r meddwl neu gyfleoedd corfforol. Gall dysgu ddatblygu sgiliau newydd, diweddaru hen sgiliau neu ddatblygu'r sgiliau sydd gennych yn barod. Bydd Cyfrif Dysgu Unigol Cymru yn help i CHI wireddu eich amcanion dysgu. Drwy agor Cyfrif Dysgu Unigol Cymru, gallwch chi ddewis pryd, sut a beth i'w ddysgu.

Mae'r cynllun yn syml iawn ac, yn dibynnu ar gost y cwrs a'ch amgylchiadau personol, gallem roi rhwng £100-£200 i chi. Nid benthyciad yw'r arian felly does dim rhaid talu'r arian a gewch yn ôl! Gyda Chyfrif Dysgu Unigol Cymru, fe ddylech ddechrau dysgu er eich mwyn eich hun.

Roedd Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru ar gael am y tro cyntaf i’r cyhoedd ar 21 Gorffennaf 2003.  Ers hynny, mae dros 19,000 o ddysgwyr wedi cofrestru i gael cymorth CDU Cymru.

Gallwch chi ddefnyddio eich CDU Cymru gyda amrywiaeth eang o ddarparwyr dysgu.  I gael manylion y darparwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer CDU Cymru a fydd yn gallu diwallu’ch anghenion chi, cysylltwch â learndirect ar rhadffon 0800 100 900.

Pob blwyddyn, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sefydlu cronfa o Ddarparwyr Dysgu o ansawdd, sy’n gallu cynnig y cyfleoedd dysgu gorau posibl ichi, unrhyw le yng Nghymru.

 

Darparwyr & Cynghorwyr